Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 6
Tachwedd 2018
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5361
------
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.16
Dechreuodd yr eitem am 14.31
NDM6856 – Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi nad yw Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gallu gweithredu:
a) mewn perthynas â chŵyn gan Joyce Watson AC dyddiedig 8 Mai; a
b) mewn perthynas ag unrhyw gŵyn arall sy'n codi o'r un pwnc.
2. Yn penodi, mewn perthynas ag unrhyw gŵyn y cyfeirir ati ym mharagraff 1, Douglas Bain CBE TD fel Comisiynydd dros dro, yn unol ag Adran 4(1) o Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009, ar y telerau a ganlyn:
a) bydd y penodiad yn dod i rym ar 7 Tachwedd 2018.
b) bydd y penodiad yn dod i ben ar unwaith pan roddir hysbysiad i'r Comisiynydd dros dro gan Glerc y Cynulliad.
c) bydd taliad y Comisiynydd dros dro yn gyfradd ddyddiol o £392 (neu pro-rata am ran o ddiwrnod) ar gyfer gweithgareddau sy'n ymwneud yn uniongyrchol â rôl a chyfrifoldebau'r swydd ynghyd â threuliau rhesymol.
d) bydd pob swm y cyfeirir ato ym mharagraff 2(c) i'w dalu i'r Comisiynydd dros dro gan Gomisiwn y Cynulliad.
Dogfen Ategol
Datganiad gan y Comisiynydd Safonau – Cyhoeddwyd ar 16 Hydref 2018
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 14.40
Gohiriwyd yr eitem tan 13 Tachwedd
Dechreuodd yr eitem am 15.23
Cafodd y trafodion eu hatal dros dro gan y Dirprwy Lywydd am 15.32 oherwydd i ddiffyg ar y meicroffonau effeithio ar y Siambr. Ailymgynullodd y cyfarfod am 15.45.
Dechreuodd yr eitem am 16.28
Dechreuodd yr eitem am 17.16
NDM6847 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau yn y Bil Ifori, i’r graddau y bônt o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried gan Lywodraeth y DU.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Hydref 2018 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Mae copi o’r Bil i’w weld ar wefan Senedd y DU:
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.19
NDM6850 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru).
Gosodwyd Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 11 Mehefin 2018.
Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 26 Hydref 2018.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 18.21
NDM6851 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 18.22
NDM6849 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adolygiad Blynyddol Pwyllgor Cymru y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2017-2018.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Gwelliant 2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at ddirwyn grant byw'n annibynnol Cymru i ben ac yn credu na all llywodraeth leol ddarparu lefel gyfatebol o gymorth ariannol oherwydd toriadau Llywodraeth Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
21 |
0 |
27 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith bod cyllid ar gyfer gwasanaethau cymorth i bobl sy'n goroesi ymosodiadau rhywiol a cham-drin domestig yn parhau i fod yn annigonol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
21 |
0 |
27 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y canfyddiad bod tlodi yng Nghymru yn dwysáu ac yn credu y dylai mynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldebau dosbarth chwarae rôl allweddol o ran hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
48 |
0 |
0 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y twf rhyngwladol mewn symudiadau gwleidyddol sy'n ceisio dirwyn amddiffyniadau hawliau dynol yn ôl ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun ar gyfer cynnal hawliau dynol ar ôl ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
36 |
10 |
2 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM6849 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi Adolygiad Blynyddol Pwyllgor Cymru y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2017-2018.
2. Yn nodi:
a) argymhellion allweddol yr adroddiad ynghylch dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus; a
b) yr argymhelliad yn llythyr y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau at y Prif Weinidog fod Llywodraeth Cymru yn amlinellu ei safbwynt diweddaraf ar gyflwyno dyletswydd economaidd-gymdeithasol.
3. Yn gresynu at y canfyddiad bod tlodi yng Nghymru yn dwysáu ac yn credu y dylai mynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldebau dosbarth chwarae rôl allweddol o ran hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol.
4. Yn gresynu at y twf rhyngwladol mewn symudiadau gwleidyddol sy'n ceisio dirwyn amddiffyniadau hawliau dynol yn ôl ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun ar gyfer cynnal hawliau dynol ar ôl ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
48 |
0 |
0 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dechreuodd yr eitem am 19.11
Daeth y cyfarfod i ben am 19.13
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 7 Tachwedd 2018